Rydym ni'n gweithio'n galed i helpu pobl drwy argyfwng coronafeirws. Gallwch ddod o hyd i'n holl ddiweddariadau newyddion sy'n gysylltiedig â coronafirws ar waelod y dudalen hon.
Gwyliwch neu gwrandewch ar ein diweddariad diweddaraf gan Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru - sy'n sôn am Gronfa Adferiad Diwylliannol Cymru, canllawiau Llywodraeth Cymru i ailddechrau gweithgarwch, ein Hadolygiad Buddsoddi ac arian y Loteri Genedlaethol.
Yr ymateb brys
Yn Ebrill 2020, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, gwnaethom ailddyrannu arian o'n cyllidebau i greu cronfa ymateb brys o £7 miliwn. Enw'r gronfa hon oedd Cronfa Gwytnwch y Celfyddydau. Fe wnaethom hefyd newid y gofynion ariannu ar gyfer unigolion a sefydliadau sy’n cael ein harian ar hyn o bryd, i leddfu'r pwysau sydd arnynt.
Cronfa Cydnerthedd Diwylliannol
Ym mis Gorffennaf 2020 fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi Cronfa Cydnerthedd Diwylliannol gwerth £53 miliwn. Y Cyngor a’r Llywodraeth fydd yn ei weinyddu ar y cyd. O'r £53 miliwn, bydd y Cyngor yn cael £25.5 miliwn o arian refeniw a £2 miliwn o arian cyfalaf.
Bydd yr arian dan reolaeth y Cyngor ar gyfer sefydliadau celfyddydol a gafodd eu heffeithio gan y coronafeirws ac sy'n ceisio goroesi hyd 2021 a’r tu hwnt pan fydd modd cynnal eu gwaith eto ar gyfer y cyhoedd.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn rheoli arian ar gyfer:
- theatrau, canolfannau celfyddydol a neuaddau cyngerdd
- orielau
- sefydliadau sy'n cynhyrchu ac yn teithio gweithgaredd celfyddydol
- sefydliadau sy'n darparu gweithgaredd celfyddydau cyfranogol
Mae Llywodraeth Cymru yn rheoli arian ar gyfer:
- lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad
- safleoedd treftadaeth
- amgueddfeydd lleol, llyfrgelloedd a gwasanaethau archif
- digwyddiadau a gwyliau
- sinemâu annibynnol
- gweithwyr proffesiynol creadigol ar eu liwt eu hunain
Mae ein Cronfa ni bellach wedi cau ond gallwch weld a ydych chi'n gymwys i gael cyllid Llywodraeth Cymru yma. Drwy’r gwiriwr caiff sefydliadau wybod pa lwybr i’w ddilyn o ran ymgeisio. I sicrhau eich bod wedi gwneud cais i'r gronfa gywir, ewch i’r gwiriwr yn gyntaf. Os bydd y gwiriwr yn eich cynghori i ymgeisio i Lywodraeth Cymru, bydd gennych amser wedyn i’w wneud cyn y dyddiad ymgeisio. Os yw hynny’n digwydd ichi, tynnwch eich cais yn ôl oddi wrth y Cyngor Celfyddydau am na chewch ymgeisio i’r ddwy gronfa. Bydd hyn yn sicrhau bod arian yn mynd drwy'r sianeli cywir.Os ydych chi am dynnu’ch cais yn ôl e-bostiwch ni yn grantiau@celf.Cymru gan gynnwys cyfeirnod i’ch cais fydd yn dechrau 2020xxxx
Angen edrych nôl ar ganllawiau ein Cronfa Adferiad Diwylliannol? Dewisiwch o'r opsiynau isod:
Oes gennych chi gwestiwn am gymorth ariannol yn ystod coronafeirws? Anfonwch neges atom grantiau@celf.cymru
Yr amserlen hyd yn hyn
Dydd Mawrth 14 Ebrill 2020
Lansiwyd y rownd gyntaf o geisiadau i gronfa newydd sy'n cynnig cymorth i unigolion sy'n wynebu anawsterau ariannol a chyni – ein cronfa ymateb brys i unigolion.
Dydd Mawrth 21 Ebrill 2020
Agorwyd cynllun arall – cronfa ymsefydlogi i sefydliadau.
Dydd Gwener 29 Mai 2020
Agorwyd cronfa ymsefydlogi i unigolion.
Dydd Iau 30 Gorffennaf 2020
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Cronfa Cydnerthedd Diwylliannol gwerth £53 miliwn. Mae'r manylion yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd.
Dydd Llun 17 Awst 2020
Cyngor Celfyddydau Cymru yn agor ei Gronfa Adferiad Diwylliannol Cymru ar gyfer ceisiadau.
Wedi derbyn cyllid cymorth coronafirws eisoes gennym ni?
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gwerthusiad o gynnwys a phroses Cronfa Gwytnwch y Celfyddydau, er mwyn llywio ein cefnogaeth wrth symud ymlaen. Cymerwch ran yn ein harolwg fel y gallwn ddefnyddio'ch adborth i sicrhau ein bod yn darparu'r math cywir o wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Ffynonellau eraill o arian
Mae Llywodraeth Cymru a Phrydain yn cynnig cymorth i'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Darllenwch fwy am yr arian sydd ar gael yma.