Rydym am i wefan Cyngor Celfyddydau Cymru fod mor hygyrch a defnyddiadwy â phosibl. Os oes gennych adborth penodol ynghylch hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Rhyngwyneb gwefan
Dyluniwyd y wefan hon i'w defnyddio gyda darllenydd sgrin. Mae hefyd yn gydnaws â chwyddwydrau sgrin sylfaenol, ynghyd â phecynnau lleferydd system weithredu.
Cyferbyniad uchel ac isel
Trwy ddefnyddio’r togl cyferbyniad testun melyn wedi’i farcio ‘A’ ar frig y dudalen we, gallwch ddewis o fersiynau uchel ac isel o’r rhyngwyneb yn dibynnu ar eich anghenion.
Iaith
Rydym yn sefydliad dwyieithog a gellwch edrych ar bob tudalen ar y wefan naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg yn unol â'ch dewis.
Gallwch newid iaith y wefan trwy bwyso'r botwm "Cymraeg" / "English" sydd ar gael ar bob tudalen o'r wefan.
Ymhellach, ceir fideos hwylus gan TechIaith sy'n arddangos sut i fynd ati i newid iaith tri phorwr poblogaidd:
Internet Explorer: vimeo.com/90068451
Chrome: vimeo.com/90030693
Firefox: vimeo.com/90020937
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, ni fydd gohebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn arwain at oedi.
Dyma'r porwyr sy'n gweithio gyda'n system ymgeisio ar-lein
Mae'n rhaid fod gan ymgeiswyr fynediad i'r Rhyngrwyd a phorwr gwe sy'n caniatáu cwcis.
Mae'r porwyr canlynol wedi ei cymerdawyo fel rhai sy'n gweithio gydag IGAM 6 (ein system ymgeisio am grantiau ar-lein)
- Internet Explorer® 11
- Internet Explorer® 10
- Internet Explorer® 9
- Internet Explorer® 8
- Mozilla® Firefox® (for PC and Mac)
- Safari® (for PC and Mac)
- Google Chrome
Nodiadau:
- Caiff pob porwr ei brofi a'i gymeradwyo yn defnyddio ei osodiadau diofyn.
- Dylai pob porwr fod gyda'r gosodiadau mwyaf diweddar wedi'u gosod
Lawrlwytho dogfennau
I ddarllen dogfennau PDF ar y wefan hon, bydd angen arnoch Adobe Acrobat Reader, sydd ar gael i'w lawrlwytho yn rhad ac am ddim o wefan Adobe.
I ddarllen dogfennau Word, defnyddiwch Microsoft Word neu un o'r Syllwyr Word sydd ar gael i'w lawrlwytho yn rhad ac am ddim o wefan Microsoft.
Ailfeintio testun
Er nad yw'r wefan hon yn darparu modd i ailfeintio testun, gellir llwyddo i gael yr un effaith yn annibynnol trwy ddilyn y canllawiau hyn:
PC / Internet Explorer 9 ac uwch
Chwyddo maint testun: Dal allwedd CTRL a phwyso +
Lleihau maint testun: Dal allwedd CTRL a phwyso -
PC / porwyr eraill:
Chwyddo maint testun: Dal allwedd CTRL a phwyso +
Lleihau maint testun: Dal allwedd CTRL a phwyso -
Mac / pob porwr:
Chwyddo maint testun: Dal allwedd Command a phwyso +
Lleihau maint testun: Dal allwedd Command a phwyso -